Mae LERCs Cymru'n croesawu cofnodion bywyd gwyllt o bob ffynhonnell am bob rhywogaeth. Defnyddir y data a gyflwynir i'r pedair LERCs at ddibenion amrywiol, o fod yn sail i benderfyniadau cynllunio lleol i gyfrannu at ymchwil amgylcheddol cenedlaethol a rhyngwladol. Daw cyfran fawr o'n data gan gofnodwyr bywyd gwyllt gwirfoddol, sy'n cynnig gwybodaeth eithriadol bwysig am ddosbarthiad rhywogaethau ledled Cymru.
Felly rydym bob amser yn falch o dderbyn data gan gofnodwyr bywyd gwyllt lleol ac mae gan bob LERC ei hadnodd cofnodi ar-lein ei hun at y pwrpas hwn. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i fynd i'r dudalen gofnodi berthnasol. Os ydych yn ansicr ynghylch ardal pa LERC rydych yn byw ynddi, defnyddiwch yr adnodd Dod o Hyd i'ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol ar wefan LERC Cymru.