Messages.

🔧 Maps Service Update Notice 🔧

Please be advised that Aderyn maps have been updated due to Bing maps approaching ending of service.

Aderyn :: Polisi Preifatrwydd Gwefan Aderyn

Ein hymrwymiad

Mae Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru (LERC Cymru) wedi ymrwymo'n llwyr i warchod eich preifatrwydd. Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu eich data gyda thrydydd parti at unrhyw bwrpas heb ei grybwyll yn y polisi hwn.

Gallwch fynd drwy wefan gyhoeddus Aderyn heb roi unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun i ni. Fodd bynnag, os byddwch yn cofrestru neu angen gwasanaethau, bydd rhaid i ni gael gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi er mwyn darparu'r gwasanaethau rydych yn gofyn amdanynt.

Yr wybodaeth bersonol mae'r wefan hon yn ei chasglu, pam rydym yn ei chasglu, a sut mae'n cael ei storio

Ni fyddwn yn casglu, yn storio nac yn defnyddio eich data personol heb fod â sail gyfreithiol benodol a rheswm dros wneud hynny, fel darparu gwasanaeth er mwyn cyflawni rhwymedigaeth gytundebol.

Ar hyn o bryd, rydym yn casglu Gwybodaeth Adnabyddadwy Bersonol a gyflwynir i'r wefan hon yn y ffyrdd canlynol:

Cofrestru

Ffurflen ar wefan Aderyn sy'n galluogi i chi gofrestru i ddefnyddio'r wefan. Gall yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar y ffurflenni hyn gynnwys eich enw, teitl, enw'r cwmni, cyfeiriad, rhifau cyswllt ac e-bost. Mae hon yn cael ei chadw'n ddiogel ym mas data LERC Cymru yn Cofnod.

Ymholiadau masnachol

Er mwyn gwneud cais am chwilio am ddata, bydd cwsmeriaid yn llenwi Ffurflen Ymholiad a Rhyddhau Data (DERF) drwy wefan briodol LERC. Gall yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar y ffurflenni hyn gynnwys eich enw, teitl, enw'r cwmni, cyfeiriad, rhifau cyswllt ac e-bost a bydd yn cael ei nodi ar Aderyn er mwyn cwblhau'r ymholiad ac anfon yr wybodaeth berthnasol allan.

Tracio ymweliadau â'r wefan

Fel y rhan fwyaf o wefannau, mae'r wefan yma'n defnyddio Google Analytics (GA) i dracio rhyngweithio defnyddwyr. Rydym yn defnyddio'r data hyn i benderfynu ar nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwefan, i ddeall yn well sut maent yn dod o hyd i'n tudalennau ar y we ac yn eu defnyddio, ac i weld eu siwrnai drwy'r wefan.

Er bod GA yn cofnodi data fel eich lleoliad daearyddol, eich dyfais, eich system weithredu a'ch system i bori'r we, nid yw'r wybodaeth hon yn datgelu unrhyw beth personol amdanoch chi. Hefyd mae GA yn cofnodi cyfeiriad IP eich cyfrifiadur a gellid ei ddefnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol ond nid yw Google yn rhoi mynediad i ni ato. Rydym yn edrych ar Google fel prosesydd data trydydd parti sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth GDPR ac â Sgrin Preifatrwydd EU-U.S. Mae Polisi Preifatrwydd Google ar gael yma.

Mae GA yn defnyddio cwcis ac mae manylion y rhain ar gael yng nghanllawiau datblygwyr Google. Er gwybodaeth i chi, mae ein gwefan yn defnyddio analytics.js yn GA.

Diogelwch y wefan a'r gweinydd

Y ffordd rydym yn storio/defnyddio gwybodaeth

Rydym yn storio'r wybodaeth rydych yn ei darparu amdanoch eich hun mewn amgylchedd diogel er mwyn darparu'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani i chi. Cedwir yr wybodaeth am oes y system oni bai eich bod yn gofyn iddi gael ei dileu. Rydym yn adolygu'r wybodaeth sydd gennym yn gyson ac yn dileu gwybodaeth nad oes arnom ei hangen mwyach. Mae'r holl ddata personol rydym yn eu prosesu'n cael eu prosesu gan ein staff yn y DU.

Cedwir data electronig a basau data ar systemau cyfrifiadurol diogel LERC Cymru ac rydym yn rheoli pwy sydd â mynediad at wybodaeth (gan ddefnyddio dulliau corfforol ac electronig). Mae ein staff yn derbyn hyfforddiant diogelu data ac mae gennym weithdrefn diogelu data fanwl y mae'n ofynnol i bersonél ei dilyn wrth drin data personol.

Rhaid i chi optio i mewn neu roi caniatâd i ni rannu eich gwybodaeth adnabyddadwy gydag unrhyw drydydd parti, a fyddai'n gorfod cadw at gytundeb cyfrinachedd. Fodd bynnag, gall yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni amdanoch eich hun gael ei rhannu gyda'n cyflogeion i'r graddau sy'n angenrheidiol i fodloni eich cais. Er enghraifft, os ydych yn darparu eich enw, eich cyfeiriad post, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda phersonél priodol er mwyn cwblhau eich cais.

Yn olaf, oni bai fod eithriad wedi'i nodi isod, ni fyddem yn defnyddio eich gwybodaeth adnabyddadwy bersonol sy'n cael ei rhoi i ni ar-lein at ddibenion eraill ar wahân i'r rhai y gwneir cais amdanynt gennych chi heb hefyd roi cyfle i chi gytuno neu fel arall gyfyngu ar ddibenion anghysylltiedig o'r fath.

Byddwn yn dilyn rhagofalon rhesymol er mwyn atal colli, camddefnyddio neu addasu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni. Er ein bod yn ceisio cadw ein systemau a'n dulliau cyfathrebu'n ddiogel rhag firysau ac effeithiau niweidiol eraill, ni allwn fod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl gyfathrebu'n ddi-firws.

Bydd yr holl draffig (trosglwyddo ffeiliau/data) rhwng y wefan hon a'ch porwr wedi'i amgryptio a'i gyflwyno dros HTTPS.

Ein gweinydd

Mae ein gwefan wedi'i gwarchod gan wal dân lefel rhaglenni gwe. Mae gweinydd y wefan hon wedi'i warchod hefyd gan wal dân. Mae'n cael ei gynnal yn Cofnod – Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru ym Mangor, Gwynedd.

Gadael ein gwefan

Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys unrhyw wefannau eraill sy'n gysylltiedig â'n gwefan. Os ydych chi wedi dilyn dolen o'r wefan hon i wefan arall, efallai eich bod yn cyflenwi gwybodaeth i drydydd parti.

Eich Hawl i Gael Mynediad i'ch Data

Rydym yn parchu eich hawl i reoli eich data. Mae gennych hawl i ddiweddaru, cywiro neu ddileu eich gwybodaeth adnabyddadwy bersonol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni.

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau unigol, edrychwch ar Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Newidiadau

Efallai y byddwn yn diweddaru'r Datganiad Preifatrwydd yma weithiau. Rydym yn eich annog chi i adolygu'r Datganiad Preifatrwydd yma yn achlysurol er mwyn cael gwybodaeth gyson am sut rydym yn helpu i warchod yr wybodaeth adnabyddadwy bersonol rydym yn ei chasglu.

22/05/2018

© LERC Cymru D/O Y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth, Uned 4, 6 The Bulwark, Aberhonddu, Powys. LD3 7LB I ddod o hyd i'ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol a darllen ei Pholisïau Preifatrwydd dilynwch y ddolen yma.