Messages.

🔧 Maps Service Update Notice 🔧

Please be advised that Aderyn maps have been updated due to Bing maps approaching ending of service.

Aderyn :: Amdanom Ni

Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yw rhwydwaith cyntaf y DU o Ganolfannau Cofnodi Lleol, sy'n cyflwyno gwybodaeth o ansawdd uchel am fioamrywiaeth ac yn cefnogi cofnodwyr bywyd gwyllt a gweithwyr proffesiynol amgylcheddol ledled Cymru.

Mae'r amrywiaeth eang o gynhyrchion a gwasanaethau a gynigir gan Ganolfannau Cofnodion Lleol Cymru'n cynnig mynediad hwylus at yr adnoddau mwyaf cynhwysfawr, diweddar a manwl gywir am ddata bywyd gwyllt yng Nghymru. Yn ogystal â darparu cynhyrchion gwybodaeth safonol, gallwn hefyd ddatblygu defnydd pwrpasol o ddata, gan ddefnyddio ein harbenigedd eang ar reoli a dadansoddi data. Dim ond un o'r cynhyrchion hyn yw Aderyn.

Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yw:

Nod Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yw:

  • Sicrhau bod gwybodaeth am fioamrywiaeth yn cael ei bwydo i'r broses gwneud penderfyniadau mewn cam priodol.
  • Darparu gwasanaethau gwybodaeth effeithlon, o ansawdd uchel, i amrywiaeth o ddefnyddwyr, o gyrff cyhoeddus i ymgynghorwyr masnachol.
  • Mynd ati i annog cofnodi a rhannu data biolegol a chymryd rhan mewn mentrau i ddatblygu sgiliau cofnodi biolegol.
  • Darparu cefnogaeth briodol i gryfhau rhwydweithiau o gofnodwyr gwirfoddol lleol a sicrhau bod ymdrechion y cofnodwyr gwirfoddol yn cael eu cydnabod
  • yn gyson.
  • Gwella llif data drwy weithredu a hybu systemau effeithlon a syml ar gyfer cyflwyno, dilysu a gwirio cofnodion.
  • Gwella'r cysylltiadau a'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, gan gynnwys mwy o rannu data gyda Phorth y Rhwydwaith.
  • Rhannu arfer gorau ac arbenigedd, yn enwedig ym maes rheoli a thechnoleg.
  • Sicrhau cymhathu ar systemau rheoli data a gweithio tuag at ddarparu gwasanaethau data ledled Cymru.
  • Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol ar gyrff gwneud penderfyniadau perthnasol.
  • Sicrhau cyfathrebu rheolaidd ledled Cymru rhwng staff a chyfarwyddwyr LRC.
  • Sicrhau bod y rol o reoli a dosbarthu gwybodaeth am fioamrywiaeth ledled Cymru'n cael ei gwerthfawrogi a'i chynnal drwy bartneriaethau lleol a chenedlaethol.
  • Cyflawni ymrwymiad i gyllid sefydlog a diogel i LRCs gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru.
  • Cyflawni ymrwymiad i gyllid sefydlog a diogel gan yr holl gyrff cyhoeddus perthnasol eraill a sefydliadau anllywodraethol.
  • Cydnabod y gwerth o gydweithio, gan groesawu rhinweddau lleol yr LRCs.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn LERC Wales.