Croeso i Aderyn: Cronfa Ddata Gwybodaeth a Chofnodi Bioamrywiaeth Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru. Yma, mae posib cael mynediad at gofnodion am rywogaethau a gweld bywyd gwyllt sydd wedi'u casglu gan y pedair Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol, sy'n cynrychioli Cymru gyfan. Mae hawl gan unrhyw un i ddefnyddio'r wefan yma i weld rhestri o gofnodion am rywogaethau sy'n agos at eu cartrefi neu fapiau sy'n dangos y dosbarthiad rhywogaethau yn ôl data Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru. Gellir rhoi caniatâd mynediad i bartneriaid, cofnodwyr a chynllunwyr at gofnodion manwl a fydd o gymorth iddynt wrth wneud penderfyniadau a delio â chadwraeth.
Ydych chi erioed wedi meddwl pa rywogaethau sydd wedi cael eu gweld yn agos at eich tŷ, ysgol neu weithle? Mae'r dudalen yma'n galluogi i chi ddod o hyd iddyn nhw! Gan ddefnyddio'r map, chwiliwch am y lleoliad sydd o ddiddordeb i chi, dewis sgwâr grid 1km, a gweld crynodeb o bob rhywogaeth ar gyfer y sgwâr hwnnw (ac eithrio rhywogaethau sensitif).
Mae'r dudalen hon yn caniatáu i chi weld ble mae Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yn cadw cofnodion ar gyfer rhywogaeth neu grŵp tacson penodol (e.e. adar) yng Nghymru. Dewiswch rywogaeth neu grŵp tacson cyfan ac arddangos map dosbarthiad 10km. Wedyn dewiswch sgwâr 10km a gweld map dosbarthiad 1km (ac eithrio rhywogaethau sensitif).
Os oes gennych chi awdurdod i gael mynediad i ardaloedd cyfyngedig y wefan hon, nodwch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair i fewngofnodi. Wedi anghofio eich cyfrinair?
Rydym bob amser yn falch o dderbyn data gan gofnodwyr bywyd gwyllt lleol ac mae gan bob LERC ei hadnodd cofnodi ar-lein ei hun at y pwrpas hwn. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i fynd i'r dudalen gofnodi berthnasol. Os ydych yn ansicr ynghylch ardal pa LERC rydych yn byw ynddi, defnyddiwch yr adnodd Dod o Hyd i'ch Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol ar wefan LERC Cymru.